Croeso i Teithiau Cychod Ynys Môn!
Dewch i ymuno â ni am daith ar hyd arfordir hardd Ynys Môn a’r Afon Menai. Dewch i weld Ynys Môn o safbwynt hollol newydd. Teimlwch y gwynt yn eich gwallt wrth i chi brofi pŵer un o'n cychod RIB 600bhp! Dewch i weld yr amrywiaeth enfawr o fywyd môr rydym yn ddigon ffodus i’w gael ar garreg ein drws – mae palod, adar y môr a morloi yn aml i’w gweld yn ystod ein teithiau ac efallai y byddwch hyd yn oed yn ddigon ffodus i weld dolffin a llamhidydd hefyd!

Taith Ynys Seiriol
Y gorau o fywyd gwyllt a hanes Ynys Môn. Dewch i weld ein bywyd gwyllt bendigedig, ein safleoedd mawreddog a phrofwch wefr 600bhp.

Taith y Pontydd
Arfordir prydferth Ynys Môn a’r pontydd eiconig. Golygfa unigryw o rai o adeiladau ac ynysoedd mwyaf godidog Ynys Môn na ellir eu gweld o’r tir.
Archebwch Nawr » Darganfod mwy »Mae diogelwch ar ein cychod yn flaenoriaeth
Mae ein cychod yn RIBau pwerus gyda'r peiriannau Mercury 300hp diweddaraf. Mae ein cychod wedi'u codio i gategori 4 gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, sy'n golygu eu bod yn bodloni gofynion diogelwch llym.
Mae ein capteiniaid yn Hyfforddwyr Cychod Pŵer RYA profiadol iawn ac wedi bod yn mordwyo ein dyfroedd lleol ers blynyddoedd lawer.
Rydym yn cyflenwi siacedi achub. Am ragor o wybodaeth am beth i ddod gyda chi a beth i’w wisgo, gweler Cwestiynau Cyffredin FAQs